Mae’r Sioe Frenhinol wedi denu’r dorf fwyaf erioed drwy ei giatiau heddiw.

Ar ddiwrnod crasboeth 26 gradd Celsius fe ymwelodd 64,769 o bobol â’r maes yn Llanelwedd, ychydig yn fwy na’r 63,390 aeth draw yn 2006.

Daw hyn wedi pryderon dros yr wythnosau diwethaf y byddai yn rhai gohirio’r sioe oherwydd y tywydd gwael. Ond mynnodd y trefnwyr y byddai yn mynd rhagddo.

Roedd 53,642 o bobol wedi ymweld ddydd Llun, 5,000 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.