Bydd ocsiwn fawr a fydd yn gwerthu gofod ar gyfer signalau ffonau symudol yn cael ei chynnal ddiwedd y flwyddyn.

Yn ôl y corff rheoleiddio Ofcom bydd hi’n bosib i bobol lwytho cerddoriaeth a ffilmiau yn gyflymach pan ddaw’r rhwydweithiau 4G newydd.

Mae Ofcom yn gobeithio bydd 98% o’r Deyrnas Unedig o fewn cyrraedd i signal 4G erbyn 2017, a dywedodd cyfarwyddwr Ofcom Cymru fod yr ocsiwn yn mynd i ddod â “buddiannau mawr i drigolion a defnyddwyr yng Nghymru wledig.”

“Mae’r ocsiwn yn gam pwysig ar gyfer paratoi gwasanaethau symudol 4G ac mae o bwys mawr ar gyfer economi Cymru,” meddai Elinor Williams heddiw ar faes y Sioe yn Llanelwedd.

“Bydd yn cefnogi amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n rhan o fywyd modern yng Nghymru wledig.”

Ffermwyr yn manteisio ar dechnoleg

Roedd Elinor Williams yn annerch cyfarfod ar “gysylltu Cymru wledig” a gafodd ei gynnal gan Undeb Amaethwyr Cymru.

Cafodd cyfarwyddwr polisi’r undeb, Nick Fenwick, ei fagu ar fferm yn Llanbrynmair ble roedd y signal symudol yn wan, a dywedodd fod ffermwyr yn fwy a mwy dibynnol ar dechnoleg ffonau megis apps.

“Mae’n naturiol i’r genhedlaeth ifanc ddefnyddioi’u ffôn mewn ffyrdd newydd a dyfeisgar,” meddai Nick Fenwick.

Mae disgwyl i bedwar cwmni gystadlu yn yr ocsiwn am yr hawl i ddefnyddio’r tonfeddi signal, ac mae disgwyl i’r gwasanaethau 4G yn cael eu cynnig o haf 2013 ymlaen.