Mae protest wedi ei gynnal yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch yn erbyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i gwtogi ar y fyddin.

Trefnwyd gwrthdystiadau mewn sawl dinas gan gynnwys Caerdydd, Glasgow, Leeds, Manceinion, Caerlŷr a Southampton.

Roedd rhai o rieni milwyr presennol y fyddin yn cymryd rhan yn y gwrthdystiadau.

Bydd ail Fataliwn y Cymry Brenhinol yn cael ei golli fel rhan o gynlluniau’r Llywodraeth i ail-strwythuro’r fyddin.

Dywedodd un o drefnwyr y brotest yn Southampton  fod y toriadau i’r fyddin yn “ddiangen”.

“Rydym ni’n gwybod am y rhyfeloedd yn Afghanistan a’r problemau yn Irac a Syria – rydym ni byth yn gwybod pryd fydd ein hangen i fynd i frwydr,” meddai Stephen Martin, a fu’n gwasanaethu yn y fyddin pan oedd yn iau.

Bydd y toriadau’n golygu bod nifer y milwyr yn gostwng o 102,000 i 82,000 erbyn diwedd y degawd.