Mae dwy gymuned wedi sefydlu pwyllgor ymgyrchu yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddewis y ffordd osgoi “borffor” rhwng Caernarfon a Bontnewydd.

Bydd llwybr y ffordd borffor yn dechrau ger Llanwnda gan fynd heibio Dinas a Bontnewydd i’r gorllewin ac yna i’r dwyrain o Gaernarfon a Stad Ddiwydiannol Cibyn cyn ailgysylltu â’r A487 ger ffordd osgoi’r Felinheli.

Daeth trigolion Felinheli a Bethel at ei gilydd i ffurfio pwyllgor ymgyrchu a fydd yn gofyn am newid o’r ffordd borffor i’r llwybr “melyn”.

Byddai honno’n cysylltu â Phlas Menai yn hytrach na thorri ar draws tiroedd fferm y ddau bentref.

“Yn bendant mae angen ffordd osgoi ar Bontnewydd, dw i wastad wedi dweud hynny,” meddai Sian Gwenllian, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a chynghorydd tref Y Felinheli.

“Ond dydi Felin ddim yn cael mantais o’r ffordd osgoi yma, yn enwedig pan mae’n torri ar draws tir amaethyddol.

“Mae’r ffordd borffor i weld ar gyfer hwyluso teithio i ymwelwyr o’r A55 i Ben Llŷn – sydd yn grêt i dwristiaeth yno – ond does yna ddim ystyriaeth am y cymunedau lleol,” ychwanegodd.

“Camarwain”

Cadarnhaodd cadeirydd y pwyllgor a’r cynghorydd sir Siôn Jones, o Fethel, y byddai’r ffordd bresennol sy’n cysylltu Felinheli â Bethel yn cau os byddai’r ffordd borffor yn cael ei hadeiladu.

Dywedodd Sian Gwenllian fod swyddog o Lywodraeth Cymru wedi eu “camarwain” yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2010 gan iddo ddweud y byddai’r ffordd honno’n aros ar agor pe byddai’r ffordd borffor yn cael ei dewis.

Yn ôl Siôn Jones, byddai’r ffordd “felyn” hefyd yn atal 916 o ddamweiniau posib tra byddai’r ffordd “borffor” yn atal 838.

Bydd yr Aelod Cynulliad lleol, Alun Ffred Jones, yn derbyn gwahoddiad i fynychu cyfarfod cymunedol mis nesaf ac, yn ôl Sian Gwenllian, mae’n “gefnogol o’n hymgyrch ni”.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw dechrau gwaith ar y ffordd osgoi borffor erbyn diwedd 2015.