Alun Davies
Mae Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth Cymru, Alun Davies, wedi croesawu cytundeb rhwng ffermwyr a phroseswyr llaeth.

Ond dywedodd y gallai’r Cynulliad orfod deddfu os nad oedd y cod ymddygiad newydd yn gwneud y tro.

Ychwanegodd ei fod wedi galw am “ateb a oedd wedi ei gynnig gan y diwydiant ac a fyddai yn gweithio ledled y Deyrnas Unedig”.

Roedd undebau, gwleidyddion blaenllaw, a phroseswyr wedi cwrdd yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddoeer mwyn cytuno ar y cod ymddygiad newydd.

“Rydw i’n croesawu’r newyddion bod cynhyrchwyr llaeth a phroseswyr wedi cytuno ar fraslun ar gyfer cod ymddygiad wrth lunio cytundebau llaeth newydd,” meddai Alun Davies.

“Mae fy nghyd-weinidogion yn cytuno â fi ei fod yn hanfodol ein bod ni’n parhau i adolygu’r cod ymddygiad.

“Serch hynny fe fyddaf yn yr hydref yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth posib er mwyn gweithredu ar elfennau o Becyn Llaeth yr Undeb Ewropeaidd.

“Rydw i’n gobeithio na fydd angen deddfu, ac y bydd gweithredu’r cod ymddygiad yn golygu bod y sector llaeth yn un teg a thryloyw.”

Y cytundeb

Fe fyddai’r cod ymddygiad newydd yn golygu bod rhaid i gwmnïoedd sy’n prynu llaeth, gan gynnwys Uwchfarchnadoedd, roi rhybudd i ffermwyr o flaen llaw os ydyn nhw’n bwriadu newid eu prisiau.

Fe fydd manylion y cytundeb ddrafft yn cael eu trafod ymhellach dros yr haf, ac fe fydd y cytundeb yn cael ei adolygu ar ôl 12 mis er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio yn ymarferol.

Daw’r cyfarfod yn Llanelwedd heddiw wedi i weinidogion materion gwledig y Deyrnas Unedig alw ar y ddwy ochr i gytuno ar god ymddygiad newydd.

Ymunodd Alun Davies gyda gweinidogion amaeth San Steffan a Senedd yr Alban, Jim Paice a Richard Lochhead, yn y cyfarfod.

Roedd mwy na 2,000 o ffermwyr wedi cymryd rhan mewn ymgyrch yn erbyn pris llaeth, gan atal mynediad i ffatrïoedd yng Ngwlad yr Haf, Swydd Gaerwrangon, a Swydd Amwythig.

Talu’r pris

Dywedodd Brian Walters, is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, a ffermwr llaeth yn ardal Caerfyrddin, bod prisiau llaeth wedi bod yn bwnc llosg ers degawdau.

“Yn ôl yn 1994 fe fyddwn i’n cael 25c am beint o laeth,” meddai.

“Ers hynny mae ein prisiau, gan gynnwys prisiau tanwydd, wedi codi’n syfrdanol ond dyw’r pris yr ydyn ni’n ei gael am y llaeth ddim wedi codi yn yr un modd.

“Mae proseswyr ac uwchfarchnadoedd yn talu llai i ffermwyr er mwyn cadw prisiau yn isel ar gyfer cwsmeriaid.

“Yn y tymor byr mae’n swnio fel pe bai hynny’n bwth gwych i’r cwsmer. Ond mae’n golygu bod ffermwyr yn gwneud colled.

“Mae wedi golygu bod nifer y ffermwyr llaeth wedi haneru dros y 13 mlynedd diwethaf.”