Llyn Syfaddan (llun: Velella)
Mae adran iechyd yr amgylchedd Cyngor Powys yn dweud fod croeso i bobol ail-afael mewn gweithgareddau dŵr ar Lyn Syfaddan gan fod algae gwyrddlas a fu yno wedi diflannu.

Ym mis Mehefin cafodd y cyhoedd gyngor i beidio gwneud gweithgareddau ar y llyn poblogaidd ger Llangors am fod algae gwyrddlas, sy’n medru bod yn wenwynig, wedi gorchuddio’r llyn.

Dywed Cyngor Sir Powys ac Asiantaeth yr Amgylchedd y byddan nhw’n parhau i brofi’r dŵr ond bod y ddau brawf wythnosol diwethaf yn awgrymu nad oes algae ar ôl yno.

“Rydym ni’n gweithio gyda’n partneriaid i edrych ar yr amodau sydd wedi creu’r algae gwyrddlas er mwyn lleihau’r tebygrwydd y bydd yn dychwelyd yn y dyfodol,” meddai Dai Walters o Asiantaeth yr Amgylchedd

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi croesawu’r newydd.

Llyn Syfaddan yw llyn naturiol mwyaf de Cymru ac mae’n gyrchfan poblogaidd ar gyfer gweithgareddau megis hwylio, rhwyfo a physgota.

Mae hefyd yn adnabyddus o achos y grannog sydd ar y llyn, sef ynys fach a gafodd ei chreu gan ddyn yn ystod oes yr haearn.