Jonathan Edwards
Mae Aelod Seneddol yn rhybuddio fod dyhead Prif Weinidog Cymru i sefydlu confensiwn ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn peryglu sofraniaeth Cynulliad Cymru.

Yn ôl Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, mae sefydlu confensiwn cyfansoddiadol yn “gynllwyn unoliaethol”  a all arwain at roi pwerau i Dŷ’r Arglwyddi i graffu ar ddeddfwriaeth Gymreig.

“Does dim gweledigaeth gan Carwyn Jones ar gyfer yr undeb felly mae’n sôn am sefydlu confensiwn er mwyn cuddio ei ddiffyg syniadau,” meddai wrth Golwg360.

“Mae unoliaethwyr mewn stad o argyfwng o achos yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban, ac am y tro cyntaf ers amser maith maen nhw’n gorfod cyfiawnhau’r status quo.

“Fel un sy’n gorfod delio’n gyson gyda’r Sefydliad Prydeinig, os nad y’ch chi’n gwybod beth ydych chi’n galw amdano fe wnawn nhw eich bwyta chi’n fyw.

“Mae’n rhaid i chi fod yn eglur a rhaid i chi gynnig rhywbeth penodol. Nid yw Carwyn Jones yn cynnig gweledigaeth ar gyfer y math o undeb hoffai e weld os bydd yr Alban yn gadael.”

Yn gynharach eleni cynigiodd Carwyn Jones fod comisiwn yn cael ei sefydlu i drafod dyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, a mynegodd ei bryder fod y drafodaeth yn cael ei harwain gan yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban.

“Tanseilio sofraniaeth Cymru”

Yn y Western Mail heddiw mae Aelod Seneddol Conwy, Guto Bebb, yn cynnig bod rôl i Dŷ Arglwyddi graffu deddfwriaeth y Cynulliad, a dywed Jonathan Edwards fod y sôn am gonfensiwn a fydd yn ceisio achub yr undeb yn “chwarae i mewn i ddwylo’r Torïaid.”

“Yn dilyn Refferendwm 2011 mae Cynulliad Cymru yn sofran a dwi ddim am weld sofraniaeth pobol Cymru yn cael ei thanseilio,” ychwanega Jonathan Edwards.