Matthew Phillips
Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 nos Wener wedi talu teyrnged iddo.
Bu farw Matthew Phillips, 24, o Gimla ger Castell Nedd, ar ôl gwrthdrawiad ger cyffordd Sarn am 11 nos Wener.
Dywedodd rhieni Matthew Phillips ei fod yn “fab, brawd a phartner a oedd yn goleuo pob ystafell gyda’i wên a’i chwerthin.”
“Mae colled mawr ar ei ôl ac ni fydd ein bywydau fyth yr un peth” meddai Mr a Mrs Phillips.
Roedd dau gar yn rhan o’r digwyddiad, sef Ford Fiesta glas Matthew Phillips a Toyota Avensis coch.
Cafodd dau oedolyn a dau blentyn oedd yn teithio yn y Toyota Avensis eu cludo i’r ysbyty. Mae plentyn pedair oed yn dal yn yr ysbyty ac mewn cyflwr sefydlog.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar i dystion i’r digwyddiad gysylltu â nhw, ac yn dweud eu bod nhw’n awyddus iawn i siarad â dwy ferch a fu’n cerdded yr ardal yn fuan cyn y gwrthdrawiad.
Mae modd cysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 01656 655555, estyniad 88331, neu i gysylltu â’r orsaf heddlu leol. Mae modd cysylltu’n ddienw hefyd drwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.