Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi torri person yn rhydd o gar yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cerbyd 4×4 a lori yn Sir Ddinbych.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A494 ger Clawddnewydd, Rhuthun, am 6.40am heddiw.
Aethpwyd a’r claf i’r ysbyty mewn ambiwlans.
Cafodd criwiau tân ac achub o Ruthun a Corwen eu hanfon i safle’r ddamwain, yn ogystal ag offer torri o Wrecsam.