Mae gwleidyddion yn Ne Cymru yn poeni y bydd yr heddlu yno yn diodde yn ariannol ac o brinder swyddogion am eu bod yn gorfod anfon swyddogion ychwanegol i Lundain i helpu i blismona’r gemau Olympaidd oherwydd trafferthion cwmni diogelwch G4S.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau y bydd mwy o swyddogion nag oedd i fod yn wreiddiol yn mynd i Lundain dros gyfnod y gemau er mai yng Nghaerdydd y bydd digwyddiad cyntaf gemau Llundain 2012, sef gêm bêldroed y merched rhwng Prydain a Seland Newydd, a hynny ymhen tridiau.

Mae Alun Michael, Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, wedi dweud wrth bapur y Wales on Sunday y dylai cwmni diogelwch G4S ddigolledu’r llu a thalu am blismona y digwyddiadau Olympaidd fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

“Mae G4S wedi addo y byddan nhw yn talu costau ychwanegol yr heddlu a’r lluoedd arfog i ddarparu’r gwasanaeth diogelwch y mae nhw wedi methu ei ddarparu a buaswn yn disgwyl i’r cwmni nid yn unig dalu i drefnwyr y gemau ond i roi arian yn syth yng nghoffrau Heddlu De Cymru,” meddai.

Mae Alun Michael wedi dweud ei fod y bwriadu sefyll i fod yn ymgeisydd Llafur yn yr etholiadau i ddewis Comisiynydd Heddlu De Cymru ym mis Tachwedd.

Pryderu am effaith anfon rhagor o swyddogion ar y gwaith o blismona De Cymru yn ystod cynfod y gemau mae Rhodri Glyn Thomas, AS Plaid Cymru.

“Mae gwasanaethau rheng flaen yr heddlu eisoes o dan bwyse ac rydw’i yn bryderus bod hyn yn mynd i wneud drwg yn waeth,” meddai gan ychwanegu bod angen eglurhad ynglyn â phwy fydd yn talu’r costau ychwanegol a’r gwir effaith ar y gwasanaeth.

Mae Heddlu‘r De eisoes yn gyfrifol am ddiogelwch yn Stadiwm y Mileniwm ac ar safleoedd hyfforddi athletwyr yng Nghaerdydd dros gyfnod y gemau Olympaidd ond mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru wedi dweud na fydd anfon y swyddogion ychwanegol yn amharu ar wasanaeth y llu.

“Fe fyddwn yn defnyddio cymysgedd o swyddogion sydd wedi eu dynodi yn bendodol i weithio ar y gemau Olympaidd, gor-amser a gofyn i swyddogion weithio ar eu dyddiau egwyl. Fel rhan o’n cynlluniau rydyn ni hefyd wedi gofyn i swyddogion beidio mynd ar wyliau dros gyfnod y gemau Olympaidd a Pharaolympaidd.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn anfon 179 o swyddogion i Lundain ar gyfer y gemau, Heddlu Gwent yn anfon 207 a bydd 132 yn mynd o Heddlu Dyfed-Powys.