Cynog Dafis Llun: Y Lolfa
Mae Cynog Dafis, cyn aelod seneddol a chynulliad Plaid Cymru, wedi dweud heddiw y dylai’r blaid ganolbwyntio mwy ar y presennol yn hytrach nag ar “faterion hirdymor fel annibyniaeth i Gymru.”

Dywedodd mewn cyfweliad ar y rhaglen Good Morning Wales ar Radio Wales bore ʼma y dylai Elin Jones, llefarydd iechyd Plaid Cymru, “eistedd i lawr” gyda’r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths er mwyn cytuno ar ffordd ymlaen i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sy’n wynebu cyfnod o newidiadau.

“Os yw hyn yn golygu y bydd Plaid Cymru yn cael ei dynnu i mewn i rôl fwy llywodraethol, yn hytrach na rôl wrthbleidiol cyson yna fe fyddai hynny yn fy mhlesio hefyd,” meddai Cynog Dafis.

Dywedodd ei fod yn credu y dylai Plaid Cymru gyflwyno ei hun fel plaid oedd am lywodraethu, a phlaid oedd am fod yn rhan o “adeiladu’r genedl yn awr, gan ddelio â’r sialensiau mawr sy’n wynebu Cymru yn y cyfnod hwn.”

Mi wnaeth Dafydd Elis-Thomas golli chwip ei blaid dydd Mercher am fethu â phleidleisio mewn cynnig o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd. Ond ddoe, fe gafodd y chwip ei adfer, a dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, na fydd mwy o gamau yn cael eu cymryd yn ei erbyn.