Ai coch fydd lliw newydd yr Arglwydd?
Mae Dafydd Elis-Thomas wedi dweud iddo ystyried ymuno gyda’r Blaid Lafur.

Hefyd mae wedi dweud na fydd yn ymddangos o flaen Panel Disgyblu Plaid Cymru ddydd Llun, am ei fod yn dymuno mynychu’r Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd.

Mae Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd mewn dyfroedd dyfnion wedi iddo wrthod mynychu pleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd, yn groes i ddymuniadau ei blaid ei hun.

Aeth ymlaen ar y cyfryngau i gyhuddo Arweinyddiaeth ei blaid o ymddwyn fel “cwn bach” i’r Ceidwadwyr ar fater ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd.

Ddoe roedd Carwyn Jones y Prif Weinidog yn dweud fod croeso cynnes i’r Arglwydd Elis-Thomas ymuno gyda’r Blaid Lafur.

A’r bore yma fe ofynnodd Radio Cymru i’r Arglwydd Elis-Thomas a ydy gadael Plaid Cymru am Lafur wedi bod yn ystyriaeth ganddo.

“Ydy,” meddai, “ac mi ddyweda i wrthach chi pam, achos rydw i yn siarad yn onest am y pethau yma, achos dw i ddim yn gweld pwynt peidio.

“Rydw i wedi fy siomi yn y safiad y mae Plaid Cymru wedi ei gymryd yn ystod yr yr etholiad diwetha’.

“Mi sefais i yn yr etholiad diwetha’ dros Blaid Cymru Dwyfor Meirionnydd i ganmol be’r oeddan ni wedi ei wneud mewn llywodraeth, ac i fynd yn ôl i’r fan yna.

“Ond nid dyna’r ymgyrch gawson ni.

“Ac felly rydan ni bellach yn rhyw fath o wrthblaid gynorthwyol i’r Ceidwadwyr.”

Ddim am fynd i’r gwrandawiad disgyblu

Ddydd Llun mae Plaid Cymru yn cynnal gwrandawiad disgyblu Dafydd Elis-Thomas, ond ni fydd y dyn ei hun yno i ymateb i’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Mi wadodd ei fod oedd yn dirmygu’r broses ddisgyblu trwy beidio â throi fyny, a mynd i’r Sioe Frenhinol Amaethyddol yn lle hynny, ar Radio Cymru’r bore yma.

“Mi fasa fo’n ddirmyg tuag at amaethwyr Dyffryn Conwy a’r etholwyr dw i’n gynrychioli o Ben Llŷn i’r Bala taswn i ddim yn y Sioe Fawr ar y dydd Llun cyntaf. Fan yna dw i wedi bod gydol fy oes, a dydw i ddim yn pasa stopio gwneud fy ngwaith fel aelod etholaeth.”

Pwyllgor etholaeth yn hapus

Neithiwr rhoddodd Pwyllgor Etholaeth Dwyfor Meirionnydd Plaid Cymru gefnogaeth lwyr i Dafydd Elis-Thomas.

Meddai’r gangen mewn datganiad toc wedi deg o’r gloch neithiwr:

‘Credwn hefyd y dylai materion o gydwybod bob amser gael blaenroaieth dros rai amlbleidiol, ac yr ydym yn galw ar grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol i hyrwyddo agenda gadarnhaol.’