Mae academydd wedi dweud fod angen i’r Cynulliad fod yn fwy “rhagweithiol” wrth geisio cymhathu mewnfudwyr i Gymru wrth i ffigurau’r Cyfrifiad ddangos fod dros 130,000 o bobol wedi symud i fyw yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf.

Mae poblogaeth Cymru wedi dringo’n uwch na 3 miliwn am y tro cyntaf erioed ac yn ôl y Swyddfa Ystadegau roedd 90% o’r cynnydd yn y boblogaeth yng Nghymru o achos mewnfudo. Yn Lloegr roedd mewnfudo wedi cyfrannu llai at dwf y boblogaeth – 50% o’r cynnydd oedd o achos mewnfudo.

Dywed yr Athro Rhys Jones o adran ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth fod mewnfudo ar y fath raddfa yn creu “heriau” o ran parhad yr iaith Gymraeg a bod lle i’r Cynulliad fod yn fwy “rhagweithiol – neu yn adweithiol bellach – er mwyn cymhathu mewnfudwyr.”

Dywed Rhys Jones fod hi’n haws gwrthwynebu mewnfudo o Loegr oherwydd y berthynas hanesyddol rhwng Cymru a Lloegr, ond bod mewnfudo o ddwyrain Ewrop – a ddigwyddodd ar ôl i wledydd megis Gwlad Pwyl a Slofacia ddod yn Aelodau o’r Undeb Ewropeaidd yn 2004 – yn codi cwestiynau eraill.

“Yn wahanol i Loegr dydy Cymru ddim wedi cael ei gormesu gan wledydd dwyrain Ewrop felly mae mewnlifiad o bobol o’r gwledydd yna yn ysgogi ymateb gwahanol yn y Cymry.”

Dywed Rhys Jones nad yw mewnfudwyr i Gymru wedi creu getoau hyd yn hyn a bod natur wasgaredig y mewnfudo yn awgrymu fod modd cymhathu’r mewnfudwyr.

Y Fro Gymraeg

Mae newidiadau yn y boblogaeth yn codi cwestiynau am natur ein hunaniaeth genedlaethol medd yr academydd.

“Mae’n debygol iawn bydd lleoliad ein Cymreictod ni’n newid,” meddai Rhys Jones.

“Mae’r fro Gymraeg wedi cael ei hystyried fel caer Cymreictod ond mae’n debyg bydd rhaid i ni ail-ddiffinio hynny a bod yn llai dibynnol ar y fro Gymraeg. Bydd ein hunaniaeth Gymreig ni’n dod yn fwy dinesig.”

Bu’ cynnydd o 36,000 ym mhoblogaeth Caerdydd dros y ddeg mlynedd diwethaf. Yr unig ardal yng Nghymru a welodd ostyngiad yn y boblogaeth oedd Blaenau Gwent – mae 200 yn llai o bobol yn byw yno nag yn 2001.