Mae cynllun newydd i helpu i ddod o hyd i waith ar gyfer gweithwyr Remploy a fydd yn colli eu swyddi yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i gau’r ffatrïoedd, wedi cael ei gyhoeddi gan Leighton Andrews heddiw.

Mewn datganiad i’r Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd  y Gweinidog Addysg a Sgiliau y byddai Llywodraeth Cymru yn cynnig Grant Cymorth i Gyflogwyr am hyd at bedair blynedd i annog cyflogwyr a rhoi cymorth iddyn nhw gynnig gwaith yng Nghymru i weithwyr anabl cymwys o Remploy.

Bydd y cynllun yn cyfrannu at gostau cyflogau a hefyd yn talu cwmnïau am unrhyw gostau rhesymol eraill a allai godi yn sgil cyflogi person anabl megis addasu’r gweithle.

Mae’n gynllun ar gyfer cyn-weithwyr anabl o Remploy a fydd yn colli eu swyddi yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i gau ffatrïoedd Remploy yn 2012.

Bydd cyllid ar gael i awdurdodau lleol sy’n gallu cynnig cyflogaeth warchodedig neu gyflogaeth addas i gyn-weithwyr Remploy am gyfnod o bedair blynedd o leiaf. Mae’n debyg y bydd y cynllun yn costio hyd at £2.4m y flwyddyn.

Yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai’n cau safleoedd Remploy yn Aberdâr, Abertyleri, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam gan arwain at golli o leiaf 183 o swyddi.

‘Ergyd fawr’

Dywedodd Leighton Andrews: “Roedd y penderfyniad yr wythnos ddiwethaf i gau ffatrïoedd Remploy yng Nghymru yn ergyd fawr i’r gweithwyr a’u cymunedau.

“Ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei bwriad rydyn ni wedi cynnig nifer o opsiynau gwahanol iddi, gan gynnwys datganoli cyllideb Remploy a’u ffatrïoedd i Lywodraeth Cymru, ond gwrthododd ystyried unrhyw un o’n cynigion.

“Mae’r Llywodraeth hon yng Nghymru yn credu na ddylai cyflogaeth ac urddas fod yn fraint. Felly rydyn ni wedi gweithredu’n gyflym i roi cymorth i’r gweithwyr sy’n wynebu colli eu swyddi.

“Rydyn ni’n anghytuno’n chwyrn â’r meddylfryd bod un ateb yn addas i bawb o ran dod o hyd i waith ar gyfer pobl anabl. Felly er mai dod o hyd i gyflogaeth prif ffrwd yw’r nod ar gyfer y rhan fwyaf, rydyn ni’n credu bod lle ar gyfer cyflogaeth a gynorthwyir a chyflogaeth warchodedig, datblygu sgiliau a darpariaethau gwasanaethau cyhoeddus eraill lle y bo’n briodol.”