Alan Llwyd
Mae Alan Llwyd wedi mynnu nad oedd yn disgwyl ennill dim yng nghystadleuaethau Llyfr y Flwyddyn eleni am ei lyfr Kate: Cofiant Kate Roberts.

Mewn sylwadau ar wefan Golwg360 mae’n dweud ei fod yn teimlo bod yn rhaid iddo ymateb i’r stori ymddangosodd ar y wefan ddoe “petai ond er mwyn amddiffyn fy hun”.

Roedd Golwg360 wedi cysylltu efo Alan Llwyd ar y ffôn i ofyn am ei ymateb gan fod cymaint yn disgwyl i’r cofiant ennill.

Dywedodd pryd hynny ei fod wedi ei “syfrdanu” gan y penderfyniad gan ychwanegu “Roedd pawb yn dweud mai hwn oedd y gorau o bell ffordd. Fedra i ddim credu’r peth.”

Aeth ymlaen i feirniadu’r beirniaid gan ddweud bod “angen beirniaid mwy dibynadwy.”

Yn ei sylwadau heddiw mae Alan Llwyd yn cadarnhau mai Golwg360 gysylltodd efo fo gan “ofyn i mi ateb cwestiynau anodd iawn. Mewn gwirionedd, ni wyddwn sut i’w hateb.”

“Nid fi a aeth at Golwg360 i leisio cwyn o fath yn y byd. Ni fyddwn byth yn gwneud hynny. Yn bersonol, ‘doeddwn i ddim yn disgwyl ennill dim, a gall sawl un dystio fy mod wedi dweud hynny.”

“Roeddwn yn gwybod na fyddwn yn ennill. Os cefais fy siomi, hyn oedd y siom: bod pawb ers misoedd wedi proffwydo y byddai fy nghofiant i Kate Roberts yn ennill Llyfr y Flwyddyn yn rhwydd. Fe ddywedwyd hynny yn y papurau, ar y radio, ar y teledu, ac wrthyf fi yn bersonol.”

“Yr hyn sydd wedi digwydd yma yw fod y mwyafrif wedi proffwydo y byddai un llyfr yn ennill y wobr a bod y tri beirniad wedi mynd yn groes i hynny. Rwyf am ailadrodd hyn: ‘doeddwn i yn bersonol ddim yn disgwyl ennill.”

Y Storïwr gan Jon Gower oedd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn y seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.

Bu trafod brwd ar Kate: Cofiant Kate Roberts pan ddaeth o’r wasg, a bu rhaglen deledu am ei gynnwys ar S4C.

Roedd honiad Alan Llwyd fod Kate Roberts yn ddeurywiol wedi ysgogi trafodaeth faith ar wefan golwg360 hefyd.

Ni chafodd Alan Llwyd mo’r wobr lai o £2,000 yn y categori Ffeithiol-Greadigol ychwaith.

Cofiant i John Morris-Jones gan Allan James aeth â hi.

Beirniaid Llyfr Cymraeg y flwyddyn eleni oedd Jason Walford Davies, Bethan Mair a Kate Woodward.