Llys y Goron, Caernarfon
Cafodd pedwar o ddynion o Gaernarfon eu hanfon i garchar am gyfnodau o dair a phedair blynedd yn Llys y Goron y dre ddoe.

Fe wnaeth Aaron Lee Roberts, 26, Mark Anthony Hughes, 24, Daniel Alan Morgan, 22, a Sion Evans, 19 bledio’n euog i gyhuddiadau o herwgipio ac anafu wrth ymddangos gerbron y barnwr, y Cofiadur Winston Roddick CyF.

Cafodd Roberts, Hughes a Morgan eu carcharu am bedair blynedd ac Evans ei anfon i Ganolfan Gadw Troseddwyr Ifanc am dair blynedd.

Clywodd y llys bod Mariuz Lyczak yn cerdded am adref ger hen sinema’r Plaza ym Mangor ar 5 Tachwedd llynedd pan fethodd dynnu sylw gyrrwr tacsi.

Roedd y pedwar diffynydd yn mynd heibio mewn car ac fe gynnigion nhw lifft i Mr Lyczak ond yn lle mynd ag ef adref, fe wnaethon nhw yrru o gwmpas Bangor gyntaf gan roi’r gorau i siarad Saesneg efo fo a siarad  Cymraeg ymysg ei gilydd.

Fe aethon nhw a Mr Lyczyak i faes parcio Meithrinfa Blanhigion Seiont ar gyrion Caernarfon cyn gofyn iddo os oes ganddo ffôn er mwyn iddo gael ffonio’i fam i ddweud ffarwel.

Ar ôl i Mr Lyczak fynd allan o’r car cafodd ei ddyrnu, ei daro ar ei ben efo potel  a’i gicio. Cafodd ei anafu’n ddifrifol ac fe fydd ganddo graith ar ei dalcen am byth.

Dywedodd bargyfreithwyr ar ran y pedwar bod ganddyn nhw gywilydd o’r hyn yr oeddyn nhw wedi ei wneud a bod Hughes wedi ysgrifennu at Mr Lyczak i ymddiheuro.

Wrth eu carcharu, dywedodd y barnwr y bydd Mr Lyczak yn cysylltu’r iaith Gymraeg efo trais a chreulondeb ar hyd ei oes ac mai dim ond cyfnod o garchar oedd yn gosb addas ar gyfer mater mor ddifrifol.