Fferm wynt yn y môr
Mae cwmni sydd eisiau creu beth allai fod y fferm wynt fwyaf yn y byd, wedi cyflwyno Adroddiad Cwmpasu i’r Arolygaeth Gynllunio, sef y cam cyntaf i gael caniatad cynllunio.

Mae’r cwmni Celtic Array eisiau codi Fferm Wynt Rhiannon rhyw 19km oddi ar arfodir Môn fuasai’n cynnwys rhwng 147 a 440 dyrbiau.

Bydd yn rhaid i’r cwmni gwblhau sawl cam cyn cael sêl bendith i gychwyn ar y gwaith ac mae newydd gyflwyno Adroddiad Cwmpasu i’r Arolygaeth Gynllunio er mwyn cael eu barn ar yr effeithiau posibl ar yr amgylchedd, y tirwedd a’r iaith Gymraeg ymhlith pethau eraill.

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio rwan yn bwrw ati i ymgynghori efo cyrff statudol cyn dod i benderfyniad fydd wedyn yn rhan o’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, sef rhan allweddol o unrhyw gais cynllunio.

Yn ôl y dogfennau gyflwynwyd i’r Arolygiaeth, bwriedir cyflwyno cais cynllunio erbyn diwedd 2013 a chychwyn ar y gwaith o adeiladu alltraeth yn 2017.

Does dim penderfyniad ynglyn â lleoliad yr is-orsaf ar y tir mawr na chwaith ar lwybrau y ceblau fydd yn cysylltu’r tyrbiau efo’r Grid Cenedlaethol ond dywed y cwmni ei fod yn disgwyl y bydd y cysylltiad ar Ynys Môn.

“Bydd seilwaith ar y tir yn destun gweithgarwch ymgynghori cyhoeddus a chais cynllunio i Gyngor Ynys Môn,” yn ôl y dogfennau.

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymgynghori gyda chyrff statudol ac yn ffurfio Barn Gwmpasu yn ystod y 42 diwrnod nesaf a bydd y cyhoedd yn gallu mynegi barn yn ystod yr hydref eleni.