Bydd Meic Stevens yn chwarae ar y nos Wener
Ymhen awr, bydd y gig enfawr i ddathlu hanner can mlynedd ers sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dechrau ym mhafiliwn Pontrhydfendigaid.

Fe wnaeth y DJ Dyl Mei flog fideo ar ran Cymdeithas yr Iaith am 3yh heddiw, yn ein tywys o gwmpas y pafiliwn wrth i’r paratoadau fynd rhagddynt.

http://blog.hannercant.com/post/27124018186/blog-fideo-hanner-cant-dydd-gwener-3pm-dyl

Dyl Mei yw un o gyflwynwyr y rhaglen sy’n cael ei darlledu’n fyw o’r gyngerdd ar S4C yn hwyrach heno, ynghyd â Lisa Gwilym ac Elin Fflur.

Ymysg y rhai fydd yn chwarae heno fydd Tŷ Gwydr, Meic Stevens, Yr Ods, Mr Huw a Heather Jones.

Yn gynharach heddiw, postiodd y gantores Gwenno Saunders y neges yma ar Twitter:

“Edrych ymlaen GYMAINT i chwarae allweddell i Jakokoyak yn Hanner Cant heno!!!!”