Mae Ymddiriedolaeth y Moch Daear wedi colli’r achos yn yr Uchel Lys i atal difa miloedd o foch daear er mwyn mynd i’r afael â’r diciâu (TB) mewn gwartheg.

Dywedodd y barnwr yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw fod cais cyfreithiol yr Ymddiriedolaeth wedi methu ar bob sail gan wrthod  diddymu penderfyniad Llywodraeth San Steffan y llynedd i ganiatáu ffermwyr a thirfeddianwyr i ddifa moch daear.

Dadleuodd yr Ymddiriedolaeth o blaid defnyddio dulliau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth i ddefnyddio dulliau amgen wedi adroddiad ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ar ddifa.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cyflwyno rhaglen o frechu yn hytrach na difa moch daear i atal diciâu mewn gwartheg.

Dywedodd y Llywodraeth fod y diciâu wedi achosi i 25,000 o wartheg gael eu lladd yn Lloegr yn unig rhwng 2010 a 2011 gan gostio’r trethdalwr £91 miliwn.

Mae San Steffan yn dadlau fod y broses o frechu moch daear yn “ymateb annigonol i’r broblem.”