Llifogydd Tal y Bont
Llai na mis ers i lifogydd mawr daro Tal-y-bont, mae trigolion yr ardal wedi llwyddo i godi bron i £11,000 at Gronfa Apêl Llifogydd Gogledd Ceredigion.

Nododd y cynghorydd lleol, Ellen ap Gwynn, fod cyfanswm yr apêl bellach wedi cyrraedd £60,000, ond roedd yn hyderus iawn y byddai llawer rhagor yn y Gronfa cyn diwedd yr haf.

Trefnwyd nifer o weithgareddau yn yr ardal, gan gynnwys Hwyl Haf – digwyddiad a drefnwyd trwy gydweithrediad holl gymdeithasau a sefydliadau’r ardal – ar 8 Gorffennaf.

Dywedodd un o’r trefnwyr Gwilym Huws ei bod wedi llwyddo i godi “dros £7,500 o fewn tair awr”.

Dywedodd Phil Davies, ar ran y trefnwyr bod y swm a godwyd yn “gwbl anhygoel.”

“Does dim dwywaith bod maint y difrod i gartrefi ac eiddo ein cymdogion wedi cyffwrdd y gweddill ohonom yn fawr iawn, ac roedd pob un yn awyddus i ddangos ein cydymdeimlad trwy eu cefnogi mewn ffordd ymarferol.”