Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn marwolaeth 30 o elyrch yng Nghaerdydd.

Dywed swyddogion bod yr elyrch wedi marw o fewn cyfnod o dair wythnos a does dim esboniad hyd yn hyn beth achosodd eu marwolaeth.

Mae oddeutu 200 o’r adar i’w gweld o gwmpas Caerdydd, yn bennaf ym Mharc y Rhath ac ym Mae Caerdydd.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau mai’r ddau leoliad yma, sy’n boblogaidd gyda theuluoedd, oedd wedi cael ei heffeithio’n bennaf.

Mae pobl sy’n dod o hyd i elyrch sydd wedi marw yn cael eu cynghori i beidio â’u cyffwrdd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i’r mater.