Prifysgol Abertawe
Mae dros 100 o wyddonwyr o bedwar ban y byd yn Abertawe’r wythnos hon i drafod nifer o faterion mwyaf blaenllaw’r byd gwyddonol, gan gynnwys theori’r Glec Fawr.

Mae’r gynhadledd “Strong and Electroweak Matter” yn dechrau ym Mhrifysgol Abertawe heddiw ac mae’n para pedwar diwrnod.

Ymhlith y siaradwyr, mae’r Athro Peter Higgs o Brifysgol Caeredin, y caiff yr Higgs boson ei enwi ar ei ôl.

Daw’r gynhadledd wythnos ar ôl cyfres o gyhoeddiadau am yr Higgs Boson gan wyddonwyr yng Nghanolfan CERN yn Y Swistir.

Cyhoeddodd gwyddonwyr eu bod nhw’n meddwl eu bod nhw wedi darganfod gronyn sy’n egluro sut mae’r bydysawd yn glynu at ei gilydd.

Daeth y darganfyddiad mewn adroddiad ar y Large Hadron Collider (LHC), y cyflymydd gronynnau ‘Big Bang’ sydd wedi costio £2.6 biliwn ac a oedd yn cael ei arwain gan Dr Lyn Evans o Aberdâr.

Meddai’r Athro Gert Aarts, sy’n cadeirio’r pwyllgor trefnu: “Rydym yn falch iawn y bydd yr Athro Higgs yn dod i Abertawe am y ddarlith hon, a fydd yn dilyn yn syth ar ôl y canlyniadau diweddaraf gan yr LCH yn CERN.

“Mae aelodau’r Grwp Theori Ronynnau o’r Adran Ffiseg yng Ngholeg Gwyddoniaeth y Brifysgol yn gweithio ar amrywiaeth eang o broblemau mewn ffiseg gronynnau elfennol; mae trefnu Cynhadledd sy’n denu ymchwilwyr o Ewrop, Gogledd a De America, India, Tsiena a Japan yn ffordd wych o ddathlu’r ymchwil o safon fyd-eang a wneir yn Abertawe.”