Mae sefydliad yng Nghymru wedi galw ar bobl i dorri’n ôl 30% ar yr y defnydd o ddŵr, er gwaethaf yr holl law yn ddiweddar.

Yn ôl Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru, mae’r boblogaeth yn defnyddio gormod o ddŵr glan.

Mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr y sefydliad, Keith Jones, “Mae pobl yn ystyried Cymru yn ardal wlyb, ond mae’n rhaid edrych yn fwy i’r dyfodol. Fe all glaw fod yn rhywbeth mwy anghyson o ran pryd a ble mae’n disgyn. Dylwn ni ddim llaesu dwylo.

“Mae’n bwysig fod y gymdeithas gyfan yn chwarae rhan yn sicrhau fod yna gydbwysedd rhwng y galw am ddŵr, a’r cyflenwad sydd ar gael,” ychwanegodd Keith Jones.

Maen nhw’n galw am osod mesurydd ym mhob cartref a diwedd ar reolau sy’n gwahardd cwmnïau dŵr rhag rhannu cyflenwadau.

Dywed y Sefydliad bod angen i Lywodraeth Cymru, y cwmnïau dŵr a rheoleiddion sicrhau fod Cymru yn gallu wynebu her y dyfodol, gan gynnwys newid hinsawdd a thwf poblogaeth.

Yn yr adroddiad, mae Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru yn rhybuddio mae’r her fwyaf i ni yng Nghymru yw’r newid yn yr hinsawdd a’r boblogaeth, a’r angen i weithredu’r ddeddfwriaeth gyfredol ac yn y dyfodol, gan gynnwys deddfwriaeth Ewropeaidd.