Poster Sneb yn Becso Dam
Mae cyfarwyddwr sioe newydd gan Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi rhybuddio y gallai gwaith y cwmni ddod i ben os na ddaw cymorth ariannol iddo.

Yn ôl Jeremy Turner o Gwmni Arad Goch, fe fyddai hynny’n drueni mawr – mae cwmni o’r fath yn hanfodol trwy gyfrwng y Gymraeg, meddai.

Mae’r cwmni ar fin dechrau perfformio sioe gerdd, Sneb yn Becso Dam, sydd wedi ei seilio ar un o recordiau’r band Edward H Dafis ond, yn ôl Jeremy Turner, does neb yn gwybod beth fydd dyfodol y gwaith.

“Mae’r arian ar gyfer y tair blynedd diwetha’ wedi dod o Grym y Fflam, arian yr Olympics, mewn ffordd,” meddai wrth y rhaglen radio, Stiwdio.

“Mae’r arian yn dod i ben a hyd y gwn i does dim un noddwr yng Nghymru wedi rhoi awgrym o arian tuag at y gweithgareddau yn y dyfodol.

“Mae’n bwysig bod cwmni theatr cenedlaethol Cymraeg gan bobol yn bodoli.”