Alison Balsom
Mi wnaeth grŵp o ddawnswyr ifanc o wlad Georgia lwyddo i gyrraedd maes Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ddoe â’u gwynt yn eu dwrn, hanner awr yn unig cyn i’w cystadleuaeth ddechrau ar ddiwrnod agoriadol yr ŵyl.

Roedd 30 aelod grŵp dawns Meskheti wedi cael marathon o daith ar ôl i’w bws adael Akhaltsikhe yn Georgia ddydd Mercher diwetha’.

Dywedodd un o’u gyrwyr, Ilia Mdinaridze, “Mi wnaethon ni deithio trwy Georgia, Twrci a Gwlad Groeg cyn teithio ar long wedyn i Fenis ac yna trwy’r Eidal, Awstria, yr Almaen a Ffrainc cyn cael llong ar draws y sianel i Loegr, ac yna i Gymru a Llangollen.

“Roedd yn andros o siwrne, ac wrth gwrs, mae’n rhaid i ni ei wneud o i gyd eto ar ein ffordd adre!”

Chawson nhw ddim problemau mecanyddol ar y daith, yn wahanol i lywydd yr ŵyl, Terry Waite.

Roedd yn arwain yr orymdaith draddodiadol o gystadleuwyr lliwgar trwy’r dre prynhawn ddoe pan dorrodd ei gar i lawr. Ond fe lwyddodd rhai o’r bobl oedd wedi ymgynnull i wylio’r orymdaith i’w helpu. Fe wnaethon nhw wthio’r car gweddill y ffordd.

Roedd 300 o bobl o 17 gwlad wedi cymryd rhan yn yr orymdaith eleni. Mi roedd ʼna bryder y byddai’n rhaid ei gohirio oherwydd y tywydd gwlyb ond fe benderfynwyd mentro, penderfyniad gafodd ei groesawu gan y rhai oedd wedi ymgynnull yn y dref.

Cafodd Cyngerdd Gala ei chynnal neithiwr gyda’r perfformwyr yn cynnwys y drwmpedrwaig Alison Balsom, a’r gantores Lesley Garrett.

Cystadlaethau ieuenctid sy’n cael blaenoriaeth yn yr Eisteddfod heddiw, gyda chyngerdd gan y tenor Alfie Boe yn cael ei chynnal heno yn y Pafiliwn Rhyngwladol. Mae’n enwog am chwarae rhan Jean Valijean yn y sioe Les Misèrables.