Mae Aelod Seneddol  De Orllewin Cymru wedi croesawu penderfyniad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i greu 450 o swyddi yn ei bencadlys  yn Abertawe fel rhan o gynllun ad-drefnu a fydd yn arbed £26 miliwn y flwyddyn.

Fe fydd y cynllun yn golygu cau 39 o swyddfeydd rhanbarthol y DVLA gan gynnwys  Bangor, Abertawe  a Chaerdydd gan  effeithio dros 1,200 o staff. Y gobaith yw adleoli’r rheini sydd wedi’i heffeithio gan y newidiadau i brif swyddfa’r DVLA yn Abertawe.

Fe fydd y 30 o staff yn y swyddfa ranbarthol yn Abertawe yn cael eu hadleoli i’r pencadlys.

Dywed y rheolwyr y byddan nhw’n trafod gyda’r 34 o staff yng Nghaerdydd a 12 ym Mangor i weld beth yw eu hopsiynau.

Dywedodd yr AS Peter Black o’r Dems Rhydd: “Er bod gan y penderfyniad yma goblygiadau enfawr i rannau eraill o’r DU mae’r ffaith bod y DVLA wedi dewis canoli’r gwasanaeth yn Abertawe i’w groesawu.

“Y gobaith yw y bydd yn rhoi sicrwydd i’r gweithwyr yn y pencadlys yn Nhreforys ynglŷn â dyfodol y ganolfan a’u swyddi.”

‘Cadarnle i’r asiantaeth’

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, hefyd wedi croesawu’r penderfyniad gan ddweud y bydd Abertawe yn parhau i fod yn gadarnle i’r asiantaeth.

“Bydd y 450 o swyddi a fydd yn dod i bencadlys yr asiantaeth yn Abertawe yn pwysleisio rôl ganolog sydd gan y ddinas i chwarae yn y trawsnewid yma i’w gwasanaeth,” meddai Cheryl Gillan.

“Rwy’n fodlon y bydd y DVLA yn gwneud popeth y gallen nhw i gefnogi ei gweithwyr drwy gydol y newidiadau yma,” ychwanegodd.

Dywedodd y Gweinidog Ffyrdd Mike Penning y byddai’r cynllun yn darparu gwasanaeth mwy effeithiol i yrrwyr.

Ni fydd swyddfeydd y DVLA yn cau tan yn hwyr flwyddyn nesaf.