Mae algae gwyrddlas yn dal i orchuddio Llyn Llangors ger Aberhonddu – ond mae hi bellach yn iawn i bysgotwyr ddychwelyd yno yn eu cychod.

Yn dilyn archwiliadau gwyddonol, mae Cyngor Sir Powys wedi ail-feddwl ynglyn â’r cyngor yr oedden nhw wedi ei rannu â’r cyhoedd yn gynharach yr haf hwn.

Ond mae Cyngor Sir Powys yn dal i gynghori pobol rhag ymwneud â gweithgareddau dwr sy’n golygu y byddan nhw’n gwlychu neu’n mynd dan wyneb y llyn.

Dyna pam mae nofio, sgïo dwr, ymdrochi, deifio a syrffio gwynt, wedi eu gwahardd o hyd.

Mae perchnogion anifeiliaid anwes a da byw hefyd yn cael eu hatgoffa i beidio â’u gadael i ddod i gyswllt â’r dwr.

Fe fydd y cyngor yn parhau i weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, trwy gynnal profion ar ddwr y llyn.

Beth yw’r peryglon?

Mae’r algae gwyrddlas yn cynhyrchu gwenwyn sy’n gallu achosi rash ar y croen, cyfog, poenau stumog, twymyn a chur pen. Mae plant mewn mwy o beryg nag oedolion.

“Mae gan algae gwyrddlas y potensial o achosi salwch os yw e’n cael ei lyncu,” meddai Steve Clinton, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Sir Powys.

“Gall fod yn beryglus os y daw i gysylltiad gyda’r croen hefyd.

“Mae’r algae yn ffurfio ac yn digwydd yn naturiol mewn llynnoedd, aberoedd a moroedd, a dydi hi ddim yn bosib ei symud na’i drin.”