Jack Widdowson
Fe fydd dawnsiwr bale gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn ymosodiad yng Nghaerdydd y llynedd, yn ôl ar y llwyfan ddydd Gwener.

Cafodd Jack Widdowson, 19, o Gaerfaddon, anafiadau difrifol i’w gefn yn dilyn yr ymosodiad arno ar ôl noson allan yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd y llynedd.

Ond mae’r dawnsiwr wedi synnu meddygon gyda’i wellhad buan ac fe fydd yn dychwelyd i’r llwyfan ddydd Gwener am ei berfformiad cyhoeddus cyntaf, wyth mis yn unig ar ôl yr ymosodiad arno.

Mae  Jack Widdowson yn un o’r dawnswyr ieuengaf yn Bern: Ballet yn y Stadttheater Bern yn y Swistir. Roedd wedi bod yn ymweld â’i frawd ym Mhrifysgol Caerdydd pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Wrth siarad â rhaglen BBC Breakfast, dywedodd: “Es i allan gyda’r nos gyda fy mrodyr a’r peth nesaf rwy’n ei gofio oedd deffro yn yr ysbyty. Roeddwn i wedi parlysu o fy ngwddf i lawr. Roedd yn eithaf brawychus.”

Ond dywedodd ei fod wedi ceisio aros yn bositif a bod hynny wedi ei helpu.

Dywedodd ei dad Dr Julian Widdowson bod gwellhad ei fab yn “anhygoel”.

Mae’r teulu bellach yn ceisio helpu dawnswyr eraill sydd wedi eu hanafu i gael y math o driniaeth a gafodd eu mab.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dyn wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r ymosodiad.