Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru
Mae siopau llyfrau yn Sir Gaerfyrddin yn grac am fod siop fawr Waterstones Caerfyrddin wedi cael yr hawl i werthu llyfrau yng Ngŵyl Lenyddol Dinefwr y penwythnos yma.

Mae perchennog unig siop lyfrau Llandeilo, y dref agosaf i safle’r ŵyl yng Nghastell Dinefwr, yn flin â’r penderfyniad.

“Mae’n gywilyddus,” meddai Kim Finings, perchennog Books on the Green yn Llandeilo. “Os ydych chi’n cael Waterstones, mae’n waeth i chi gael Costa Coffee, McDonald’s a Tesco yno.

“Dw i yn siomedig iawn bod Waterstones yna am eu bod yn gadwyn. Dydyn nhw ddim yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin, na llenyddiaeth yng Nghymru. Oni ddylai fod yn rhywbeth sy’n ymwneud â siopau llyfrau bach a grwpiau darllen yn y cymunedau bach – onid dyna yw’r pwynt?”

Roedd wedi clywed am yr ŵyl trwy’r wasg leol ac wedi disgwyl i rywun gysylltu o Lenyddiaeth Cymru, ond chlywodd hi ddim byd. Maes o law, daeth rhywun o Lenyddiaeth Cymru i’r siop a gofyn iddi gadw pamffledi, ond fe wrthododd, gan ddweud nad oedd neb wedi cysylltu o gwbl â’r siop ynglŷn â’r ŵyl.

“Dw i’n meddwl ei fod yn warthus nad ydyn nhw wedi dod at siop lyfrau leol i fod yn rhan. Ond roedden nhw’n barod iawn i drafod.”

Cwynion

Fe gafodd gynnig fynd â stondin i’r ŵyl, ond roedd hi’n rhy hwyr iddi hi drefnu staff mewn pryd, meddai. “Allwch chi ddim trefnu siop dros dro mewn pum munud,” meddai.

Dywedodd bod sawl siop yn Llandeilo wedi tynnu posteri’r ŵyl i lawr mewn protest, er ei bod hi’n dal i’w arddangos. “Dw i wedi siarad â Llenyddiaeth Cymru a dweud y gwna’ i werthu tocynnau,” meddai Kim Finings. “Siop lyfrau ydyn ni a dw i’n gwbl gefnogol i hyrwyddo llenyddiaeth. Ar y cyfan, dw i’n meddwl ei fod yn beth da, ond yn amlwg mae amryfusedd wedi bod ac ambell i fater marchnata wedi codi.”

Mae Golwg360 yn deall bod siopau eraill yn Sir Gaerfyrddin hefyd wedi cwyno i Lenyddiaeth Cymru.

Mewn ymateb, dywedodd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru eu bod eisoes wedi bod yn trafod y cwynion hyn yn uniongyrchol gyda chynrychiolwyr o’r siopau lleol.

Waterstones

“Cynigiwyd cytundeb i redeg siop lyfrau’r ŵyl i nifer o ddarparwyr,” meddai Lleucu Siencyn. “Penderfynwyd cynnig y gwaith i gangen Waterstones yng Nghaerfyrddin y tro hwn. Mae strategaeth newydd y cwmni yn caniatáu i ganghennau lleol wneud llawer mwy yn y cymunedau, ac mae Waterstones yng Nghaerfyrddin yn gefnogol iawn i ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol.

“Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwn yn cynnig y gwaith i ddarparwr arall flwyddyn nesaf. Mae tocynnau’r ŵyl wedi bod ar werth yn Tangled Parrot, Caerfyrddin a’r siop lyfrau Books on the Green yn Llandeilo.”

Dyma flwyddyn gyntaf yr ŵyl ddwyieithog newydd ym Mharc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Llandeilo, ac mae hi wedi cael £65,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru o’i goffrau Ariannu Gwyliau.

Bydd yn dechrau brynhawn Gwener yma ac yn para tan ddydd Sul, Gorffennaf 1 a bydd llu o feirdd, awduron a cherddorion amlwg yn perfformio, gan gynnwys Andrew Motion, Howard Marks, Gruff Rhys, Dewis Prysor ac wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis. Mae’r rhaglen gyfan ar gael ar www.dinefwrliteraturefestival.co.uk/cy/line-up <http://www.dinefwrliteraturefestival.co.uk/cy/line-up>