Mae’r heddlu’n apelio am gymorth i ddod o hyd i fam a merch sydd wedi mynd ar goll o’u cartref yn Wolverhampton ac sydd, o bosib, yn aros yng Nghaerdydd.

Fe gafodd yr heddlu glywed fod Martina Nistorova, 22, a’i merch Suham Nebi-Nistorova, 5, wedi bod ar goll o’u cartref yn New Street yn Parkfields ers 7 Mehefin.

Mae Martina Nistorova yn wyn; tua 5 troedfedd 7 modfedd, yn denau, gyda gwallt hir du. Mae ei merch Suham hefyd yn wyn gyda gwallt hir brown.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd yn gwybod lle mae’r ddwy i gysylltu â Heddlu De Cymru neu Heddlu Wolverhampton ar 101.