Mae angen i Swyddfa’r Post ei gwneud hi’n haws i bobol sy’n cael trafferth gweld neu glywed i ddefnyddio’r gwasanaeth, medd adroddiad.

Mewn astudiaeth gan Lais Defnyddwyr Cymru roedd traean y cwsmeriaid sydd wedi colli eu golwg wedi cael trafferthion gyda rhwystrau o’u blaenau, tra bod cwsmeriaid oedd â nam ar eu clyw heb allu defnyddio botwm sain ar bedwar allan o bob pum ymweliad.

Mae Gwneud Synnwyr yn nodi canfyddiadau pobol ddall ac eraill oedd â nam ar eu clyw a ymwelodd â 150 o swyddfeydd post ar draws Cymru.

Roedd mwy na thraean o’r gwirfoddolwyr o’r farn fod cynllun eu swyddfa bost yn broblem, a bod hi’n anodd dod o hyd i’r cownter ar eu hymweliad cyntaf.

Er hynny roedd naw o bob deg o’r bobol a gymerodd rhan yn yr astudiaeth yn canmol gweithwyr swyddfa’r post am fod yn broffesiynol. Dywedodd 80% y bydden nhw’n teimlo’n hyderus ynglŷn â defnyddio swyddfa’r post yn y dyfodol.

Wrth galon y gymuned

Dywedodd Ceri Jackson, Cyfarwyddwr dros-dro RNIB Cymru, fod swyddfeydd post yn “llawer mwy na lle i bostio llythyr yn unig.”

“Mae wrth galon y gymuned, gan alluogi pobol leol i gael gafael ar amrywiaeth eang o wasanaethau heb orfod teithio’n rhy bell oddi cartref – rhywbeth sy’n arbennig o werthfawr i lawer o bobl ddall a rhannol ddall sy’n ei chael hi’n anodd teithio ar eu pennau eu hunain.

“Mae’r ffaith fod traean o’r bobl yn dweud ei bod hi’n anodd mynd trwy’r drws hyd yn oed, oherwydd rhwystrau a pheryglon a allai beri iddynt faglu, yn achos pryder gwirioneddol, a gobeithiaf y gallwn bellach weithio gyda nhw i’w helpu i wneud Swyddfa’r Post yn lle diogel a chroesawgar i bawb yn y gymuned leol” meddai Ceri Jackson.

Dywedodd Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru, Richard Williams, fod angen ystyried anghenion pobol sydd â nam ar eu clyw fel rhan o ofal cwsmer.

“O ystyried fod un o bob chwech o bobl yng Nghymru wedi colli eu clyw nid yw’r swyddfeydd post hynny’n darparu gwasanaethau sy’n gwbl hygyrch i’w cwsmeriaid – mae’n ddrwg i’w busnes, heb sôn am fod yn wasanaeth gwael i gwsmeriaid.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Swyddfeydd Post i wneud yn siŵr fod y gwasanaeth cymunedol pwysig hwn yn gwbl hygyrch i’r 534,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi colli eu clyw.”

Croesawodd Swyddfa’r Post y newydd fod mwyafrif y cwsmeriaid wedi canmol y staff, a dywedon nhw byddan nhw’n ystyried cynnwys yr adroddiad.