Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynghori trigolion Dinbych y Pysgod i fod yn ofalus wedi cyfres o fwrgleriaethau yn y dref yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Mae lladron wedi torri i mewn i nifer o dai ganol y nos yn ardal Glebe a chyngor yr heddlu yw i ofalu bod pob drws a ffenestr wedi eu cloi.

Oherwydd y lladrata bydd rhagor o blismyn yn yr ardal ac mae ditectifs eisoes wedi cychwyn holi o ddrws i ddrws.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth am y lladrata i ffonio 101 a gofyn am dditectifs Dinbych y Pysgod.