Ynys Enlli
Mae gwyddonydd sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ar greu parthau cadwraeth ar hyd rhannau o arfordir Cymru yn dweud y bydd y cynllun yn gwneud lles i’r cyflenwad o bysgod yno ac na fydd dulliau arferol o hamddena fel nofio a phlymio yn diodde.

Dywedodd Dr David Parker, sy’n brif wyddonydd efo Cyngor Cefn Gwlad Cymru wrth raglen ‘Eye on Wales’ Radio Wales y bydd creu y parthau yn cynyddu’r cyflenwad o bysgod yn arw ac hefyd yn cynyddu’r dealltwriath o sut i reoli’r amgylchedd morwrol mewn modd cynnaladwy.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau creu tri neu bedwar parth cadwraeth allan o restr fer o ddeg safle erbyn 2014 ond mae ymgyrchwyr yn erbyn y cynllun yn pryderu y bydd y parthau yma yn dinistrio y diwydiant pysgota a thwristiaeth mewn rhai ardaloedd.

Mae pedair o’r ardaloedd sydd dan ystyriaeth ar benrhyn Llŷn, tri oddi ar arfordir Penfro, dau yn Ynys Môn ac un ym Mae Ceredigion.