Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y byddwn nhw’n creu uned lobïo newydd er mwyn adeiladu ar waith ymgyrchu’r mudiad yn y Cynulliad.

Dywedodd y Gymdeithas y byddwn nhw’n penodi arweinydd i’r uned lobïo newydd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Cadeirydd y mudiad, Bethan Williams, bod y bleidlais o blaid rhoi’r grym i’r Cynulliad ddeddfu wedi chwarae rhan yn y penderfyniad i sefydlu uned lobïo newydd.

Daw’r penderfyniad wedi i rai sylwebyddion, gan gynnwys yr academydd Simon Brooks, alw am ffurfio grŵp lobio cyfansoddiadol yn gynharach eleni.

Bryd hynny dywedodd fod “angen grŵp cyfansoddiadol a fydd yn rhoi’r iaith wrth galon y wladwriaeth Gymreig”.

Ymatebodd Cymdeithas yr Iaith i’w her drwy ddweud y byddai strwythur y mudiad yn newid mewn modd “radical” yn ystod y flwyddyn i ddod.

“Fel y dywedais i ar ddechrau’r flwyddyn, rydyn ni’n fudiad sydd yn addasu drwy’r amser wrth i’r byd gwleidyddol a chymdeithasol newid o’n cwmpas, ac fel mudiad sydd eisiau’r adnoddau mwyaf addas ar gyfer ymgyrchu dros y Gymraeg rydym yn gweld hyn fel cam naturiol ymlaen,” meddai Bethan Williams heddiw.

“Byddwn yn mynd ati i benodi arweinydd am dri mis cyn adolygu a thrafod yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddechrau Medi.

“Mae’r syniadau yma yn deillio o nifer o drafodaethau rydym wedi eu cynnal dros y misoedd diwethaf. Byddwn yn trafod ymhellach gydag aelodau dros y misoedd i ddod.”

Blaenoriaeth

Fel rhan o newidiadau i’r mudiad wrth iddyn nhw ddathlu 50 mlynedd o ymgyrchu eleni, maen nhw hefyd wedi penderfynu datganoli llawer mwy o rym a rheolaeth i’w grwpiau rhanbarthol.

“Ers traddodi darlith Tynged yr Iaith 2 rydym wedi dweud fod ein cymunedau yn mynd i gael blaenoriaeth gennym,” meddai Bethan Williams.

“Wrth alw am fwy o rym i’n cymunedau i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain mae’n gwneud synnwyr ein bod yn rhoi mwy o berchnogaeth i’n rhanbarthau dros ein gwaith yn lleol.

“Mae’n dangos ein bod yn cymryd ein cymunedau a’n rhanbarthau o ddifrif.”

Fe gynhelir cyfarfodydd lleol i drafod y penderfyniadau ym mhob rhanbarth o’r wlad dros y misoedd nesaf, cyn y bydd cynnig terfynol yn cael ei roi gerbron Cyfarfod Cyffredinol y mudiad ar 8 Medi.