Ar ôl y chwalfa yng Ngogledd Ceredigion ddoe, mae’r gwaith clirio yn parhau heddiw, gyda thrigolion ac ymwelwyr yn disgwyl i glywed os allan nhw ddychwelyd i’w cartrefi a’u carafanau i asesu’r difrod a wnaethpwyd gan y llifogydd.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud fod o amgylch 1,000 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi, a bod tri pherson wedi derbyn triniaeth am fan anafiadau. Dywed yr heddlu hefyd fod difrod wedi ei wneud i bont yn Nhalybont, ac i bont ym mhentref Goginan.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi diolch i bawb oedd yn rhan o’r ymdrech i achub y rhai oedd wedi cael eu dal gan y dŵr mawr. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, Prif Weinidog Prydain, David Cameron, a’r Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, hefyd wedi datgan eu diolchiadau a’u hedmygedd o’r ffordd y gwnaeth y cymunedau yng Ngogledd Ceredigion ymateb i’r argyfwng.

Meddai Elin Jones, “Ar adegau fel hyn, mae pobl Ceredigion wastad yn dangos ysbryd cymunedol, ac roedd i’w weld yn glir eto wrth i ni ddelio gyda’r llifogydd a’u heffeithiau.”

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cyhoeddi un rhybudd llifogydd heddiw, ar gyfer Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder.