Mae bachgen 14 oed wedi marw yn dilyn damwain yn Chwarel Cilyrychen yn Sir Gâr.

Fe gafodd ei enw ei gyhoeddi’n hwyr ddydd Iau – Luke Somerfield, 14 oed, o ardal Ffairfach, Llandeilo.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 4.40pm ddydd Mercher ar ôl adroddiadau fod  bachgen mewn trafferthion yn y dŵr yn y chwarel ger Heol Llandeilo, Llandybie.

Cafodd y bachgen ei achub o’r dŵr a chafodd ei gludo i Ysbyty Treforys mewn  hofrennydd lle bu farw’n ddiweddarach.

Dywed Heddlu Dyfed Powys nad oes amgylchiadau amheus i’w farwolaeth ond eu bod yn parhau i geisio darganfod manylion ynglŷn â’r digwyddiad.