Mae dyn o’r Rhyl wedi cael ei gyhuddo o lofruddio gwraig weddw 89 oed o’r dref.

Dywed Heddlu’r Gogledd y bydd George Norman Johnson, 47 oed, o Ffordd Brighton, y Rhyl, yn ymddangos gerbron ynadon Llandudno yfory ar gyhuddiad o ladd Florence May Habesch.

Cafwyd hyd i gorff y wraig oedrannus yn ei chartref yn Ffordd Grange yn y dref ddydd Mawrth, ac fe ddangosodd archwiliad post-mortem iddi ddioddef anafiadau i’w phen.