Fe fydd Gŵyl Jazz Aberhonddu’n ceisio ailgysylltu gyda’r dref, meddai llefarydd ar ran y trefnwyr newydd.

Yn groes i duedd y blynyddoedd diwetha’, fe fydd cyngherddau’n cael eu symud yn ôl i adeiladau yn y canol, gan gynnwys Neuadd y Dref a Theatr Brycheiniog.

Ac yn ôl y trefnwyr newydd, cwmni Orchard o Gaerdydd, fe fydd rhywfaint o ddigwyddiadau’n cael eu trefnu yn y strydoedd hefyd.

Maen nhw wedi cael pum wythnos i drefnu gŵyl eleni ar ôl ennill cytundeb dwy flynedd i drefnu’r ŵyl – roedd y trefnwyr blaenorol, Gŵyl y Gelli, wedi rhoi’r gorau iddi’n annisgwyl y llynedd.

Mae’r cwmni hefyd yn addo “rhywbeth i bawb” ond heb lastwreiddio’r elfen jazz – y gantores ‘soul’ Dionne Warwick yw’r enw mwya’ eleni.

Ond mae yna nifer o enwau da o fyd jazz hefyd – yn enwedig o wledydd Prydain. Ac fe fydd lle amlwg i Gymry fel Huw Warren a Paula Gardiner.