Mae’r Heddlu yng Nghaergybi yn apelio ar y gymuned leol i’w helpu i ddod o hyd i fandaliaid oedd wedi malu gwydr mewn chwe thŷ gwydr yn Ffordd Plas yng Nghaergybi.
Fe wnaed y difrod rhywbryd dros nos rhwng nos Fercher, 30 Mai a nos Iau, 31 Mai.
Dywedodd PC Rhys Davies o Orsaf Heddlu Caergybi: “O ystyried y difrod a achoswyd rwy’n siŵr y bydd rhywun wedi clywed rhywbeth neu wedi sylwi ar rywbeth amheus neu anarferol.
“Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth a allai ein cynorthwyo neu hyd yn oed os oes rhywun yn adnabod y troseddwyr, rydym yn eich annog i gysylltu â ni.”
Gellir cysylltu â PC Davies ar 101 neu’n ddienw drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.