Traffig o gyfeiriad Pwllheli at y Maes, fore Mawrth
Mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 wedi awgrymu y dylai ymwelwyr â Phen Llyn ysgafnhau rhywfaint ar y tagfeydd trwy osgoi ardal yr wyl.

Mewn datganiad ben bore heddiw, mae’r Urdd yn annog gyrwyr i fynd o Bwllheli trwy Gricieth ac am Borthmadog, cyn ymuno â’r A487. Byddai hynny’n well na pharhau ar hyd yr A499 i Gaernarfon.

“Yn dilyn tagfeydd traffig i Faes yr Esiteddfod ddoe, oedd yn gyfuniad o draffig Gwyl y Banc i Ben Llyn a niferoedd uchel iawn yn ymweld a’r Maes, hoffem annog ymwelwyr i Ben Llyn i deithio trwy Gricieth, er mwyn osgoi Maes yr Esiteddfod (parhau ar yr A487 i Borthmadog, yn hytrach na throi ar yr A499 tuag at Bwllheli,” meddai’r datganiad gan yr Urdd.

Mae’r problemau traffig yn parhau heddiw, gyda gyrwyr sy’n teithio ychydig filltiroedd yn cymryd dros awr i gyrraedd y maes parcio – o’r ddau gyfeiriad, o Gaernarfon a Phwllheli.

Ond mae heddweision ar gefn beiciau modur ac mewn ceir, yn rheoli’r sefyllfa y bore yma. Mae mwy o arwyddion wedi eu codi er mwyn cyfarwyddo ceir, mae yna fwy o stiwardiaid wedi eu drafftio i mewn gan gwmni diogelwch.

Er hynny, mae trigolion Llandwrog yn poeni fod ceir yn dewis cymryd y lôn isaf, gul a throellog, o Gaernarfon trwy’r pentre’.