Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi mai’r Corporal Michael John Thacker o  Fataliwn Cyntaf y Royal Welsh oedd y milwr laddwyd yn Affganistan dydd Gwener.

Mae 416 o aelodau o’r Lluoedd Arfog bellach wedi cael eu lladd yn Affganistan ers i’r ymladd gychwyn yno.

Cafodd ei eni yn Swindon a’i addysg yng Nghwmbran. Roedd yn briod ac yn dad i ferch ddwyflwydd oed.

Dywedodd ei wraig Catherine ei fod “yn ŵr a thad anhygoel…yn ddyn gwirion, cariadus a charedig”.

Cafodd Corporal Thacker ei saethu tra roedd ar wyliadwriaeth yn ardal Nahr-e-Saraj yn nhalaith Helmand ac ar ei drydydd taith yn Affganistan efo’r fyddin.

Cafodd driniaeth yn y fan ar lle ar ôl cael ei saethu ond bu farw yn fuan ar ôl cael ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty.

Mae ei frawd, Michael hefyd wedi bod yn aelod o Fataliwn Cyntaf y Royal Welsh.