Leighton Andrews
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, wedi penderfynu y gallai Ofcom roi “ystyriaeth briodol” i’r iaith wrth gyflawni ei swyddogaethau.

Bydd Ofcom yn cael gosod amodau ar drwyddedau darlledwyr er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cynnwys deunydd iaith Gymraeg.

Cyfeiriwyd y mater at Weinidogion Cymru ar ôl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac Ofcom fethu â chytuno ar gynllun iaith Gymraeg.

Dywedodd y Bwrdd ym mis Mawrth eu bod nhw wedi cynnal trafodaethau gydag Ofcom hyd at oriau olaf eu bodolaeth, “yn unol â chyfarwyddyd” Leighton Andrews.

Roedden y Bwrdd ac Ofcom wedi ceisio cytuno ffurf ar eiriau a fyddai’n galluogi’r Bwrdd i gymeradwyo Cynllun Iaith y rheoleiddiwr darlledu.

Roedd Ofcom wedi datgan eu bod yn awyddus i weld deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno a fyddai’n cryfhau eu gallu i gynnwys amodau ieithyddol wrth ddyfarnu trwyddedau darlledu yng Nghymru.

Ond dywedodd y Bwrdd ar y pryd eu bod nhw’n gryf o’r farn bod y pwerau hynny eisoes gan Ofcom.

‘Ystyriaeth briodol i’r Gymraeg’

Mae Leighton Andrews bellach wedi penderfynu ar gynllun sy’n cynnwys mesur sy’n ymwneud â’r ystyriaeth briodol y bydd angen i Ofcom ei rhoi i’r Gymraeg wrth gyflawni ei swyddogaethau sy’n cynnwys gwasanaethau i’r cyhoedd.

Mae’r mesur yn dweud y gallai Ofcom “roi ystyriaeth briodol i’r defnydd o’r Gymraeg wrth gyflawni ein swyddogaethau sy’n ymwneud â gwasanaethau i’r cyhoedd” wrth “sicrhau bod deunydd lleol yn cael ei gynnwys mewn darllediadau trwyddedig, gan gynnwys deunydd sydd â chynnwys ieithyddol penodol a/neu’n cael ei gyflwyno mewn modd ieithyddol penodol a hynny, lle bo angen, drwy osod amodau ar y drwydded”.

Mae’r Gweinidog wedi rhoi gwybod i Ofcom a Chomisiynydd y Gymraeg ei fod wedi arfer pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 14(5) o Ddeddf 1993.

Y mesur

Byddwn ni [Ofcom] yn rhoi ystyriaeth briodol i’r defnydd o’r Gymraeg wrth gyflawni ein swyddogaethau sy’n ymwneud â gwasanaethau i’r cyhoedd.

Mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys: paratoi a chyhoeddi ein Canllawiau Lleolrwydd, a cyflawni ein swyddogaethau trwyddedu, mewn modd sy’n anelu at sicrhau bod deunydd lleol yn cael ei gynnwys mewn darllediadau trwyddedig, gan gynnwys deunydd sydd â chynnwys ieithyddol penodol a/neu’n cael ei gyflwyno mewn modd ieithyddol penodol a hynny, lle bo angen, drwy osod amodau ar y drwydded.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi croeawsu’r penderfyniad. Dywedodd Meri Huws: “Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad hwn heddiw. Mae penderfyniad y Llywodraeth yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer gweithredu Mesur y Gymraeg 2011.”