Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am ganllawiau llymach i reoli’r sŵn o dyrbinau gwynt er mwyn gwarchod pobl sy’n byw yn agos atyn nhw.

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am ddiffodd tyrbinau gwynt diffygiol yn ystod y nos a chyflwyno pellter clustogi rhwng y tyrbinau a’r bobl sy’n byw yn agos atyn nhw.

Cafodd yr argymhellion eu cynnwys mewn adroddiad gafodd ei lunio mewn ymateb i ddeiseb oedd yn galw am ragor o reolaeth dros sŵn o dyrbinau gwynt. Roedd dros 1,000 o enwau ar y ddeiseb.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad y gellid defnyddio camau o’r fath pe bai Llywodraeth Cymru’n newid canllawiau cynllunio statudol mewn cysylltiad â thyrbinau diffygiol a phellter clustogi.

Mae’r Pwyllgor yn sylweddoli bod gan Lywodraeth Cymru bwerau dros faterion cynllunio mewn cysylltiad â lleoli tyrbinau ar y tir, sy’n cynhyrchu llai na 50 Megawat yn unig, ond clywodd nad yw’r sŵn sy’n peri diflastod bob amser yn gymesur â maint y tyrbin.

Ymgynghoriad

Roedd y Pwyllgor wedi cynnal ymgynghoriad ar y mater, ac, oherwydd nifer sylweddol yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad o bentref Gwyddgrug yn Sir Gaerfyrddin, fe fu’r pwyllgor ar ymweliad â dwy fferm wynt yn yr ardal.

Cafodd y Pwyllgor nifer aruthrol o ymatebion gan bobl a oedd yn honni bod sŵn o dyrbinau gwynt yn effeithio ar eu cwsg ac yn amharu ar eu bywyd bob dydd.

“Clywsom fod rhai pobl nad oeddent bellach yn mwynhau bod allan yn eu gerddi eu hunain, ac roedd eraill yn ofni y byddai eu cartrefi’n colli’u gwerth, a rhai yn cael trafferthion cysgu a fyddai’n arwain at broblemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol,” meddai William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

‘Iechyd yn flaenoriaeth’

Ychwanegodd: “Mae iechyd a lles pobl sy’n byw yng Nghymru yn brif flaenoriaeth gennym, ac mae’n hanfodol bod pobl sy’n byw yn agos i dyrbinau gwynt yn cael eu gwarchod.

“Mae’r Pwyllgor yn cydnabod pa mor bwysig yw sicrhau ffynonellau ynni gwyrdd i ddiwallu ein hanghenion o ran ynni yn y dyfodol, fodd bynnag, ni ddylid gwneud hyn ar draul iechyd pobl.”

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ystyriaeth y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd o’r mater ehangach o bolisi ynni yng Nghymru. Fe fydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.