Peter Morgan
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cyhoeddi mai’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Peter Morgan yw Cadeirydd y cyngor am eleni.

Roedd gyrfa rygbi Peter Morgan yn nodedig am iddo chwarae’n amlach dros y Llewod nag y gwnaeth dros Gymru – saith gwaith yng nghrys y Llewod a phedair gwaith dros Gymru.

Dechreuodd ei yrfa rygbi yng nghlwb Hwlffordd ac aeth ymlaen i chwarae dros 300 o weithiau dros Lanelli, yn bennaf yn safle’r canolwr. Bellach mae’n ŵr busnes ac yn cynrychioli sedd yr Hafan ar Gyngor Sir Penfro.


Jamie Adams
Arweinydd newydd

Arweinydd newydd Cyngor Sir Penfro yw Jamie Adams, ffermwr organig o Keyston ger Hwlffordd. Mae’n olynu ffermwr arall, John Davies o Eglwyswrw, yn swydd arweinydd y cyngor sir.

Ganed Jamie Adams yn Sir Benfro a bu’n gadeirydd pwyllgor gwledig Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.