Dyfed Edwards
Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards wedi cyhoeddi aelodau ei gabinet yn dilyn yr etholiadau ar 3 Mai.

Mae 10 aelod ar y cabinet – naw o Blaid Cymru ac un o’r Blaid Lafur, sef Brian Jones o Gwm-y-Glo.

Plaid Cymru yw’r blaid fwyaf ar Gyngor Gwynedd gyda 37  o 74 sedd, ac maen nhw wedi dod i gytundeb gyda’r pedwar cynghorydd Llafur er mwyn arwain gyda mwyafrif ar y cyngor.

Sian Gwenllian o’r Felinheli yw’r Dirprwy Arweinydd a’r aelod sydd wedi cael y portffolio addysg. Mae cau ysgolion yn parhau yn bwnc llosg yn y sir ac enillodd Llais Gwynedd – sydd wedi bod yn llafar o blaid cadw ysgolion ar agor – 13 sedd ar y cyngor.

“Llywodraeth Gwynedd”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Bydd Aelodau Cabinet yn gweithredu fel Gweinidogion mewn llywodraeth – Llywodraeth Gwynedd. Mae hyn yn golygu cyfrifoldeb sylweddol a’r angen i arwain a hynny er mwyn cyflawni ar ran pobl Gwynedd.

“Mae’n gyfnod heriol wrth gwrs, ond yn gyfnod sy’n llawn posibiliadau yn ogystal. Rwyf innau a’r Cabinet yn benderfynol o gyflawni dros y Cyngor er gwaetha’r sefyllfa ariannol sy’n ein hwynebu.”

Mae Gwynedd wedi symud i drefn gabinet o redeg y cyngor yn hytrach na system bwrdd a fu’n weithredol ers 1996. Daw hyn yn yn dilyn Mesur llywodraeth Leol Cymru.

Fel yng ngweddill siroedd Cymru bydd aelodau cabinet yn derbyn cyflog blynyddol o £28,780, o’i gymharu gyda chyflog o tua £12,000 ar gyfer cynghorydd o’r meinciau cefn.

Dyma restr o aelodau’r Cabinet a’u cyfrifoldebau:

Portffolio Deilydd Maes cyfrifoldeb
Arweinydd Dyfed Edwards Arweiniad Strategol; Cynllunio Busnes
Dirprwy Arweinydd Sian Gwenllian Cyfathrebu
Addysg Sian Gwenllian Addysg, Aelod Arweiniol Plant a Phobl Ifanc
Gofal R H Wyn Williams Gwasanaethau Cymdeithasol; Iechyd (Strategol)
Amgylchedd Gareth Roberts Priffyrdd; Bwrdeistrefol; Trafnidiaeth; Ymgynghoriaeth
Amddifadedd Brian Jones Atal tlodi/Amddifadedd; Cydraddoldeb
Economi John Wynn Jones Economi; Adfywio; Caffael; Celfyddydau
Cynllunio John Wyn Williams Tai; Cynllunio; Cynllun Datblygu Lleol
Adnoddau Peredur Jenkins Cyllid; Adnoddau Dynol; Trawsffurfio
Gofal Cwsmer Ioan Thomas Gofal Cwsmer; Democratiaeth a Chyfreithiol; Gwarchod y Cyhoedd, Y Gymraeg
Gwynedd Iach Paul Thomas Hamdden; Gwynedd Iach; Gwasanaethau Ieuenctid; Darparu