Mae trefnwyr y Sioe Wanwyn wedi dweud bod 25,000 o bobol wedi mynd i’r sioe ddeuddydd yn Llanelwedd y penwythnos diwethaf.

Ni chafodd y dirwasgiad lawer o effaith ar y niferoedd medd y trefnwyr, ond roedd y ffigwr eleni fil yn is na’r nifer a aeth i’r sioe’r llynedd.

Dechreuodd yr ŵyl 12 mlynedd yn ôl ar gyfer tyddynwyr a garddwyr yn bennaf ond bellach mae’r trefnwyr yn ymhél a themâu cynaladwyedd a chadwraeth.

Canlyniadau’r anifeiliaid:

Defaid

Pencampwr :    Dafydd Morgan, Aberystwyth  Is-bencampwr:  B L & J E Jones, Corwen

Grŵp o dair: Pencampwr: Gethin Davies, Ceredigion. Is-bencampwr: G W ac I Evans, Llanbed

Moch

Pencampwr: H D & E M Roberts, Pwllheli .  Is-bencampwr Miss E Shankland, Caerffili

Geifr Angora

Pencampwr: D V Lockton, Clynderwen. Is-bencampwr: Teulu Rogers, Rhaeadr.

Cnu Angora

Pencampwr: D & V Lockton.  Is-bencampwr: C a D Tyler, Crymych

Geifr Pigmi

Pencampwr ac is-bencampwr (adran fridio): Mr a Mrs R Morris, Glyn Ebwy

Pencampwr (adran anwes): Mrs Jessica Jones, Swydd Henffordd. Is-bencampwr Miss Emma L Davies, Llandysul

Geifr Llaeth

Pencampwr: Mrs E M Crook, Caernarfon. Is-bencampwr: Ian Johnson, Swydd Derby

Gwartheg

Pencampwr ac is-bencampwr: D T ac A M Handley, Swydd Henffordd

Stondin gorau gan frîd gwartheg: (1) Gwartheg White Park (2) Shetland

Stondin gorau gan gymdeithas brîd defaid: (1) Cymdeithas Defaid Mynydd Balwen

(2) Cymdeithas Defaid Llanwenog