Mae disgwyl i gannoedd o bobl gyrraedd y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw i gyflwyno deiseb yn galw am ddiogelu gwasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.

Mae oddeutu 20,000 o bobl wedi arwyddo’r ddeiseb sy’n galw ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda i sicrhau bod rhai gwasanaethau yn cael eu cadw yn yr ysbyty.

Fe fydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno’n swyddogol am 12.45pm.

Dywed Llywodraeth Cymru nad oes ganddyn nhw gynlluniau i is-raddio’r ysbyty.