Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cadarnhau heddiw mai algae – ac nid carthffosiaeth – ydi’r stwff brown sydd i’w weld ar draethau yn Abertawe a Sir Benfro ar hyn o bryd.

Mae adroddiad gan swyddogion yr Asiantaeth yn nodi mai’r math Phaeocystis o algae’r môr, sy’n edrych yn debyg iawn i garthffosiaeth heb ei drin, sydd wedi codi chwilfrydedd ac achosi pryder i rai pobol.

Mae’r math hwn o algae i’w weld ar draethau ac yn nwr y môr yr adeg yma o’r flwyddyn. Fe all ymddangos  fel ffôm brown, hufenog cyn ei fod yn troi’n frown tywyllach ac yn lympiau wrth iddo ddadelfennu.

“Mae’r algae, yn enwedig pan edrychwch chi arnyn nhw’n agos, yn gallu cael ei gamgymryd am garthffosiaeth,” meddai datganiad ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

“Ond fe allwch chi fod yn sicr, er nad ydi’r algae yn rhywbeth atyniadol iawn, bod ei bresenoldeb ar draethau yn ddigwyddiad naturiol, blynyddol bron.”

Mae’r Asiantaeth yn rhybuddio y gallai’r algae hwn gyrraedd traethau eraill arfordir Cymru yn ystod yr wythnosau nesa’.