Daniel Morgan
Daeth achos llofruddiaeth ditectif preifat o Gymru i ben y llynedd am fod yr heddlu wedi colli pedwar bocs o dystiolaeth, medd arolwg a gafodd ei gyhoeddi heddiw.

Colli’r dystiolaeth oedd “dechrau’r diwedd” i’r achos medd arolwg gan Wasanaeth Erlyn y Goron a’r Heddlu.

Cafwyd hyd i gorff Daniel Morgan, 37, oedd yn dod o Sir Fynwy yn wreiddiol, mewn maes parcio tafarn yn ne Llundain ym 1987. Roedd wedi cael ei ladd gyda bwyell.

Roedd Scotland Yard wedi cyfaddef fod llygredd ar ran yr heddlu wedi effeithio ar yr ymchwiliad gwreiddiol yn 1987 i lofruddiaeth Daniel Morgan.

“Achos eithriadol”

Mae’r arolwg a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn nodi fod achos llofruddiaeth Daniel Morgan yn un “eithriadol” o achos cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys oedran yr achos, maint “anferthol” y deunydd a gynhyrchwyd, a bod tri thyst wedi cael eu tanseilio “gan ffactorau a effeithiodd are eu hygrededd.”

Dywed yr arolwg hefyd fod prinder tystiolaeth wyddonol, ac mae’n tynnu sylw at fethiannau gan yr heddlu a’r erlyniad.

Mae’r gost o gynnal pump archwiliad gan yr heddlu, cwest, a thair blynedd o wrandawiadau llys yn £30 miliwn yn ôl un amcangyfrif.

Roedd achos yn erbyn tri dyn a oedd wedi eu cyhuddo o ladd Daniel Morgan wedi chwalu ym mis Mawrth y llynedd. Fis cyn i’r achos chwalu methodd yr heddlu â chanfod pedwar bocs o dystiolaeth yr oedd amddiffyniad wedi gofyn amdanyn nhw.