Bydd gwyddonioadur ar-lein Wikipedia yn cychwyn prosiect newydd yfory gyda’r bwriad o gofnodi pob agwedd ar fywyd mewn tref yng Nghymru.

Daw Trefynwy yn “dref Wikipedia” cyntaf Prydain a bydd Monmouthpedia yn cynnwys llefydd a phobol lleol o bwys, ynghyd â blodau a bywyd gwyllt yr ardal.

Mae Wikipedia wedi annog pobol Trefynwy i gyfrannu cyn gymaint o erthyglau a lluniau ag sy’n bosib.

Bydd technoleg ‘smart phone’ yn caniatau i ddefnyddwyr y wefan ledled y byd sganio llefydd o ddiddordeb, a chael gwybodaeth am lefydd pwysig yn Nhrefynwy wedi ei anfon i’w ffonau mewn sawl iaith wahanol.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gyngor Sir Fynwy a Wikimedia UK, y corff elusennol sy’n hyrwyddo Wikipedia a’i brosiectau trwy Ynysoedd Prydain.

Yfory fe fydd Llyfrgell Trefynwy yn croesawu’r cyhoedd draw i ddysgu sut i osod deunydd ar Wikipedia, a bydd y cyngor sir lleol a Wikimedia yn arwyddo cytundeb swyddogol i greu’r dref Wikipedia gyntaf yn hanes yr ynysoedd hyn.